Latest news

Gwefan ddim ar gael / Website Unavailable

Published: Monday 21 August 2023

Oherwydd gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol, ni fydd y wefan ar gael am gyfnod ddydd Mercher 23 Awst 2023.

_______________________________________________________________________________________________________________________________


Due to essential manitenance and upgrades, the website will be unavailbe for a period on Wednesday 23 August 2023.
 

Fflatiau byw yn ddiweddarach yng Nghwm Aur / Later living flats at Cwm Aur, Llanybydder

Published: Tuesday 23 May 2023

​Fflatiau byw yn ddiweddarach yng Nghwm Aur, Llanybydder. Ar gael nawr

Mae Cwm Aur yn ddatblygiad byw’n annibynnol o 40 o fflatiau wedi’u dylunio ar gyfer pobl 55+ oed. Mae gennym ni fflatiau 1 a 2 ystafell wely sydd ar gael mewn amgylchedd deniadol a chroesawgar. Ymhlith y cyfleusterau mae ystafell fwyta, lolfa, ystafell weithgareddau a gerddi hardd. Mae'r fflatiau hunangynhwysol yn gwbl hygyrch, ac mae lifft ar gael i bob llawr. Mae croeso i'r rhan fwyaf o anifeiliaid anwes.

Cysylltwch â Kelly ar 0300 373 5183 neu CarmarthenshireAreaTeam@poblgroup.co.uk am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad i archwilio.
________________________________________________________________________________________________________________________________

Cwm Aur is an independent living development of 40 apartments designed for people aged 55+. We have 1 and 2 bedroom apartments available in an attractive and welcoming environment. Facilities include dining room, lounge, activities room and beautiful gardens. The self-contained apartments are fully accessible, and a lift is available to all floors. Most pets are welcome.

Please contact Kelly on 0300 373 5183 or CarmarthenshireAreaTeam@poblgroup.co.uk for more information or to arrange a viewing.

www.poblgroup.co.uk/cwm-aur

Heol Cae Ysgubor, Rhydaman/Ammanford (Yn dod cyn hir / Coming Soon)

Published: Thursday 21 April 2022

Mae Heol Cae Ysgubor yn ddatblygiad newydd gan y Cyngor sy'n darparu 28 o dai cyngor newydd. Mae'r datblygiad yn cael ei gyflwyno mewn un cam a disgwylir iddo gael ei gwblhau ar 16 Mai 2022. Bydd y datblygiad hwn yn darparu 28 o dai cyngor newydd ychwanegol a bydd yn cynnwys:

  • 18 tŷ dwy ystafell wely
  • 6 tŷ tair ystafell wely
  • 4 tŷ pedair ystafell wely

Mae'r tai yn effeithlon o ran ynni a bydd hyn yn golygu biliau ynni is i denantiaid. Maent wedi cael eu hadeiladu i safon uchel a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon, gwella effeithlonrwydd ynni'r tai, a gwella iechyd a llesiant i'r tenantiaid.
________________________________________________________________________________________________________________________________

Heol Cae Ysgubor is a Council new build development providing 28 new Council homes. The development is being delivered in 1 phase and is due to complete on 16th May 2022. This phase will provide an additional 28 new council homes and will include:

  • 18 two bedroom houses
  • 6 three bedroom houses
  • 4 four bedroom houses

The homes are energy efficient and will have lower energy bills for tenants. They have been built to a high quality which will help reduce carbon emissions, improve the homes energy efficiency, and improve the health and well-being for tenants.

Cynigion Pasg / Easter Bidding 2022

Published: Wednesday 13 April 2022

Oherwydd Penwythnos Gŵyl y Banc bydd y cylch ceisiadau nesaf yn cael ei ymestyn i ddydd Mawrth 19eg o Ebrill 2022.

Bydd eiddo’n cael ei hysbysebu rhwng hanner nos dydd Iau tan hanner nos ddydd Mawrth.

 

Due to the Bank Holiday Weekend the next bidding cycle will be extended to Tuesday 19th April 2022.

Properties will be advertised from midnight Thursday to midnight Tuesday.

Clos Wern Las, Llanelli (Yn dod cyn hir / Coming Soon)

Published: Wednesday 13 April 2022

Clos Wern Las, Llanelli

Mae Clos Wern Las yn un o ddatblygiadau tai newydd cyntaf y Cyngor. Caiff y datblygiad ei ddarparu mewn tri cham, a disgwylir i'r cam cyntaf gael ei gwblhau ddydd Llun, 18 Ebrill. Bydd y cam hwn yn darparu 8 o dai cyngor ychwanegol newydd a bydd yn cynnwys:

  • 8 tŷ â dwy ystafell wely

Mae'r tai yn effeithlon o ran ynni a bydd hyn yn golygu biliau ynni is i denantiaid. Maent wedi cael eu hadeiladu i safon uchel a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon, gwella effeithlonrwydd ynni'r tai, a gwella iechyd a llesiant i'r tenantiaid.

Clos Wern Las, Llanelli

Clos Wern Las is one of the councils first new build developments. The development is being delivered in 3 phases, with the first phase due to complete on Monday 18th April. This phase will provide an additional 8 new council homes and will include:

  • 8 two bedroom homes

The homes are energy efficient and will have lower energy bills for tenants. They have been built to a high quality which will help reduce carbon emissions, improve the homes energy efficiency, and improve the health and well-being for tenants.